Athlete Development Practitioner - Performance Nutritionist / Ymarferydd Datblygu Athletwyr - Maethegydd Perfformiad
- Post Date:4th July 2023
- Views 990
- Offered Salary £30,000 +Career Level Mid-LevelExperience 3 Years
- Salary Grade 7 - £36,345.88 - £38,934.61
Job Description
DEPARTMENT AND SALARY
Department – Sport System
Salary – Grade 7 – £36,345.88 – £38,934.61
Working Hours – 37 hours (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)
Contract Type – Fixed Term – 15 months
WHO WE ARE
Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. We are the main adviser on sporting matters to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds. We aim to not only improve the level of sports participation at grassroots level but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage.
Equality, Diversity & Inclusion is at the heart of everything we do at Sport Wales. Further information on this can be found in our Equality, Diversity & Inclusion Statement here.
We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you.
Language skills (bilingualism & multilingualism) are desirable characteristics across all roles within Sport Wales. We are passionate about promoting the use of Welsh language and, as part of our development programme, give everyone the opportunity to learn Welsh if they wish to do so, offering learning programmes from beginner right through to fluent.
Sport Wales embraces a blended approach to work, where you will be able to split your time between the office and home to best suit your personal circumstances and business need.
To find out what it’s like to work with us at Sport Wales please watch the video on our careers page.
WHAT YOU’ll Need
We are looking for individuals who have experience as a practicing Registered Dietitian or Nutritionist and have a minimum of Graduate Registration with the Sport and Exercise Nutrition Register (SENr) to support the health, well-being and athletic development of people accessing performance sport across Wales.
Who you’ll work with
You will develop strong relationships with coaches and other staff in sports, members of the sport system services team, and wider Sport Wales colleagues to support our partners to better understand and to improve the athlete development environments they create. You will work with people who share a passion for improving athlete development environments, health and well-being in Wales (and beyond) and you’ll help to influence and persuade others to engage in athlete development activity that is aligned to the Sport Wales athlete development principles. You will interact with coaches, athletes and other support staff in identifying, co-creating and delivering athlete development projects across Wales.
the Role
This is an exciting opportunity to influence athlete development experiences and environments and to promote the role of food and nutrition to support athlete development, health and well-being across the Welsh sport system. We want to support our partners to ensure that athletes’ health and well-being as well as their environments are paramount in their athlete development programmes as part of our drive to make Wales a world leading nation in how we go about developing athletes.
Working with our partners, other members of the sport system services team, and wider Sport Wales colleagues, you will be responsible for developing and delivering projects that are aligned to our inclusive athlete development principles which can be found here.
You will contribute to our understanding and learning about how we can best develop athletes (with a particular focus on how nutrition impacts on athlete development, health and well-being and environments) not only within individual sports but across the Welsh system. You will do this by working across multiple project teams and developing strong relationships both internally and externally.
You will use your knowledge, learning, curiosity, and passion to continually evolve how we work on projects related to athlete development.
WHAT HAPPENS NEXT
You should read the full job description.
You can apply for this role now.
If you’d like to discuss the role further, then please email olivia.williams@sport.wales
For more information on the process of applying please email JOBENQUIRIES@SPORT.WALES
CLOSING DATE
Midday 12/07/2023
PROVISIONAL INTERVIEW DATE
26/07/2023
AM Y SWYDD WAG YMA
Ymarferydd Datblygu Athletwyr – Maethegydd Perfformiad
ADRAN A CHYFLOG
Adran – System Chwaraeon
Cyflog – Graddfa 7 – £36,345.88 – £38,934.61
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)
Math o Gontract – Tymor Penodol – 15 mis
PWY YDYM NI
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy’n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i’ch cefnogi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac, fel rhan o’n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’ch cartref, i gyd-fynd orau â’ch amgylchiadau personol.
I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideo ar ein tudalen gyrfaoedd.
BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad fel Deietegydd neu Faethegydd Cofrestredig yn ymarfer ac sydd ag isafswm o Gofrestriad Graddedig gyda’r Gofrestr Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SENr) i gefnogi iechyd, lles a datblygiad athletig pobl sy’n defnyddio chwaraeon perfformiad ledled Cymru.
gyda phwy fyddwch yn gweithio
Byddwch yn datblygu perthnasoedd cadarn gyda hyfforddwyr a staff eraill mewn chwaraeon, aelodau o dîm gwasanaethau’r system chwaraeon, a chydweithwyr ehangach Chwaraeon Cymru i gefnogi ein partneriaid i ddeall yn well a gwella’r amgylcheddau datblygu athletwyr maent yn eu creu. Byddwch yn gweithio gyda phobl sy’n rhannu angerdd dros wella amgylcheddau datblygu athletwyr, iechyd a lles yng Nghymru (a thu hwnt) a byddwch yn helpu i ddylanwadu ar eraill a’u perswadio i gymryd rhan mewn gweithgarwch datblygu athletwyr sy’n cyd-fynd ag egwyddorion datblygu athletwyr Chwaraeon Cymru. Byddwch yn rhyngweithio â hyfforddwyr, athletwyr a staff cefnogi eraill i nodi, cyd-greu a chyflwyno prosiectau datblygu athletwyr ledled Cymru.
Y RÔL
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar brofiadau ac amgylcheddau datblygu athletwyr ac i hyrwyddo rôl bwyd a maeth i gefnogi datblygiad, iechyd a lles athletwyr ar draws system chwaraeon Cymru. Rydym eisiau cefnogi ein partneriaid i sicrhau bod iechyd a lles athletwyr, yn ogystal â’u hamgylcheddau, yn hollbwysig yn eu rhaglenni datblygu athletwyr fel rhan o’n hymgyrch i wneud Cymru’n genedl sy’n arwain y byd o ran sut rydym yn mynd ati i ddatblygu athletwyr.
Gan weithio gyda’n partneriaid, aelodau eraill o dîm gwasanaethau’r system chwaraeon, a chydweithwyr ehangach Chwaraeon Cymru, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni prosiectau sy’n cyd-fynd â’n hegwyddorion datblygu athletwyr cynhwysol sydd i’w gweld yma.
Byddwch yn cyfrannu at ein dealltwriaeth a’n dysgu am y ffordd orau o ddatblygu athletwyr (gan ganolbwyntio’n benodol ar sut mae maeth yn effeithio ar ddatblygiad, iechyd a lles ac amgylcheddau athletwyr), nid yn unig o fewn chwaraeon unigol ond ar draws system Cymru. Byddwch yn gwneud hyn drwy weithio ar draws timau prosiect lluosog a datblygu perthnasoedd cadarn yn fewnol ac yn allanol.
Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth, eich dysgu, eich chwilfrydedd a’ch angerdd i esblygu’n barhaus sut rydym yn gweithio ar brosiectau sy’n ymwneud â datblygu athletwyr.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.
Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, anfonwch e-bost i olivia.williams@sport.wales
Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, e-bostiwch JOBENQUIRIES@SPORT.WALES
DYDDIAD CAU
Hanner dydd ar 12/07/2023
DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD
26/07/2023